Mabwysiadwyd arfbais genedlaethol Tsiad ym 1970. Mae gan y darian donnau o ddŵr i gynrychioli Llyn Tsiad. Gafr fynydd, sy'n cynrychioli gogledd y wlad, a llew, sy'n cynrychioli'r de, yw'r cynhalwyr sydd gyda symbol coch arnynt sy'n cynrychioli'r prif fwyn, halen. O dan y darian mae bathodyn Urdd Genedlaethol Tsiad, ac ar hyd gwaelod yr arfbais mae sgrôl gydag arwyddair cenedlaethol Tsiad, Unite, Travail, Progres.[1]